e-Lyfrgell mewn Ffocws - Cyfrifon Personol yn e-adnoddau BMJ/ e-Library in Focus - Personal Accounts in BMJ e-resources
Gofestru/ Register:
Beth yw cyfrifon personol a sut gallan nhw fod o gymorth wrth ddefnyddio e-adnoddau? Ymunwch ag e-Lyfrgell GIG Cymru am sesiwn e-Lyfrgell mewn Ffocws newydd - Cyfrifon Personol yn e-adnoddau BMJ. Oeddech chi’n gwybod nad yw defnyddio eich cyfrif OpenAthens GIG Cymru yn union yr un fath â dal cyfrif personol gydag e-adnodd.
Gall cyfrifon personol ganiatáu i ddefnyddwyr gyrchu swyddogaethau ychwanegol ar lwyfan - fel arbed chwiliadau, neu allforio canlyniadau - ond mae hyd yn oed fwy o nodweddion y gall defnyddwyr fanteisio arnyn nhw. Ymunwch â Ali Boukabache, o BMJ Group, wrth iddo esbonio sut mae cyfrifon personol yn gweithio yn adnoddau BMJ ar gyfer defnyddwyr e-Lyfrgell GIG Cymru.
I ba e-adnoddau BMJ ydyn ni’n tanysgrifio? BMJ Best Practice: Adnodd crynhoi tystiolaeth a gynlluniwyd i gefnogi arferion clinigol a datblygu proffesiynol parhaus, ac sy’n cynnwys mynediad at y Rheolwr Cydafiacheddau. BMJ Journals: platfform e-gyfnodolion ar gyfer cyhoeddiadau BMJ. Mae tanysgrifiad e-Lyfrgell GIG Cymru yn cynnwys 31 o e-gyfnodolion sydd ar gael drwy BMJ Journals. BMJ Case Reports: mynediad at adroddiadau achos clinigol a gyhoeddwyd drwy BMJ. Gall gweithwyr GIG Cymru a deiliaid contract hefyd gyflwyno adroddiadau achos ar gyfer cyhoeddiadau yn rhad ac am ddim, ac os cânt eu derbyn, byddant ar gael i Gymrodyr a Thanysgrifwyr eraill. Darllenwch fwy am gael eich gwaith wedi’i gyhoeddi yn BMJ Case Reports yma BMJ Learning: Mae BMJ Learning yn blatfform e-ddysgu sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau a modiwlau ar bynciau clinigol ac anghlinigol y gellir eu cwblhau ar gyflymder y dysgwr. Darllenwch fwy am y DPP a’r achrediad sydd ar gael trwy BMJ Learning
|
|
What are personal accounts and how can they be helpful when using e-resources? Join the NHS Wales e-Library for a new e-Library in Focus session - Personal Accounts in BMJ e-resources. Did you know that using your NHS Wales OpenAthens account is not quite the same as holding a personal account with an e-resource. Personal accounts can allow users to access additional functions on a platform - like saving searches, or exporting results - but there are even more features users can take advantage of. Join Ali Boukabache, from BMJ Group, as he explains how personal accounts work in BMJ resources for NHS Wales e-Library users.
Which BMJ e-resources do we subscribe with? BMJ Best Practice: An evidence summary resource designed to support clinical practices, continuous professional development, and includes access to the Comorbidities Manager.
BMJ Journals: an e-Journal platform for BMJ publications. NHS Wales e-Library subscription includes 31 e-Journals titles available on with BMJ Journals. BMJ Case reports: access clinical case reports published through BMJ. NHS Wales employees and contract holders can also submit case reports for publications free of charge, where upon acceptance, would then be accessible to other Fellows and Subscribers. Read more about getting published in BMJ Case reports here BMJ Learning: BMJ Learning is an e-Learning platform with a vast suite of courses and modules on clinical and non-clinical topics which can be completed at the learner’s pace. Read more about the CPD and accreditation available through BMJ Learning
|